SL(6)688 - Y Cod Trefniadaeth Ysgolion

Cefndir a Diben

Dyroddir y Cod Trefniadaeth Ysgolion (“y Cod”) o dan adrannau 38 a 39 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).  Dyma'r trydydd argraffiad o'r Cod a bydd yn dod i rym ar 9 Chwefror 2026 ac yn disodli'r ail argraffiad o'r Cod a gyhoeddwyd yn 2018.

Mae adran 38 o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ar drefniadaeth ysgolion. Caiff y Cod osod gofynion a chaiff hefyd gynnwys canllawiau sy’n amlinellu nodau, amcanion a materion eraill. 

Rhaid i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac unrhyw berson arall sy'n cynnig ad-drefnu ysgolion weithredu yn unol â'r gofynion yn y cod a rhaid iddynt roi sylw i'r canllawiau yn y Cod wrth arfer unrhyw swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf.

Y weithdrefn

Drafft Negyddol

Rhaid gosod drafft o’r cod gerbron y Senedd. Os, o fewn 40 niwrnod (ac eithrio diwrnodau pan fo’r Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y gosodir y drafft, bydd y Senedd yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r cod drafft, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r Cod.

Os na wneir penderfyniad o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (ar ffurf y drafft), a daw’r cod i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â'r cod hwn.

1.     Yn nhestun Cymraeg y Cod, mae amrywiad rhwng y defnydd o "dyroddi" neu "cyhoeddi" i fynegi ystyr "issue" lle’r ymddengys fod y cyd-destun yr un peth. Ar ddalen flaen y ddogfen, mynegir "Date of issue" fel "Dyddiad cyhoeddi" ond yn y paragraff cyntaf o dan y pennawd "Crynodeb o’r newidiadau yn y trydydd argraffiad o’r Cod" ar dudalen 7 mynegir "issue" gan ddefnyddio "dyroddi" a "cyhoeddi" yn yr un cyd-destun. Yn nhroednodiadau 1 a 2 ar dudalen 7, mynegir "issue" drwy ddefnyddio ffurfiau gramadegol ar "dyroddi" a "cyhoeddi" wrth gyfeirio at “issue of notices” gan Gomisiynydd y Gymraeg. Yn ddiweddarach ym mharagraff 8.2, mae'r testun Cymraeg hefyd yn amrywio rhwng "rhoi" a "dyroddi" wrth gyfeirio at "issue" o ran cyfarwyddyd. Yn ogystal, ym mharagraff 5.17, mynegir "issue" mewn perthynas â phenderfyniad drwy ddefnyddio ffurf ar "cyhoeddi" ond ym mharagraff 5.31 fe'i mynegir trwy ddefnyddio ffurf ar "cyflwyno" (a ddefnyddir yn fwy cyffredin ar gyfer "serve") yn yr un cyd-destun. Mae'r broblem hon yn digwydd trwy gydol testun Cymraeg y Cod.

 

2.     Ar dudalen 9, ym mharagraff 1, yn y testun Saesneg, ar ôl y cyfeiriad at adran 2, mae'n nodi'r pennawd ar gyfer yr adran honno "(changes which require proposals)". Fodd bynnag, yn y testun Cymraeg, mae'r geiriau mewn cromfachau ychydig yn wahanol i bennawd adran 2 gan ei fod yn nodi "newidiadau sy'n gofyn am gynigion" yn hytrach na "newidiadau y mae angen cynigion ar eu cyfer".

 

3.     Ym mharagraff 1.42, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi "the reason for proposing discontinuance of the school” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “y rheswm dros gau’r ysgol” ac mae’r gair “cynnig” wedi’i hepgor.

 

4.     Ym mharagraff 1.45, yn yr wythfed pwynt bwled, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “promote access to the availability of Welsh-medium courses” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “hyrwyddo mynediad at gyrsiau cyfrwng Cymraeg” ac mae’r gair “argaeledd” wedi’i hepgor. Yn ogystal, mae gwahaniaeth bach arall yn y pwynt bwled hwnnw lle mae'n nodi “the sustainability or enhancement of Welsh-medium provision” yn y testun Saesneg, ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “gynaliadwyedd darpariaeth cyfrwng Cymraeg a’i gwella”.

 

5.     Ym mharagraff 2.7, yn y testun Cymraeg, mae'r dewis o derm ar gyfer "premises" yn amrywio rhwng y geiriau "safle" a "premises" yn yr un cyd-destun. Ar ddechrau'r paragraff hwnnw, yn y pwynt bwled cyntaf, mynegir "premises of a school" a "premises of the school" fel "mangre ysgol" a "mangre'r ysgol". Ond yn ddiweddarach ym mharagraff 2.7, mynegir "school premises" a "school's premises" ill dau fel "safle ysgol". Felly, mae'r testun Cymraeg yn anghyson wrth gyfeirio at "premises" yn yr un cyd-destun. Yn ogystal, ni fydd y darllenydd yn gallu gwahaniaethu rhwng "site" a "premises" yn y testun Cymraeg oherwydd defnyddir "safle" hefyd i fynegi "site" mewn mannau eraill yn y Cod. “Mangre” yw’r gair safonol a argymhellir ar gyfer “premises” yng Ngeirfa Uned Cyfieithu Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

6.     Yn yr ail baragraff sydd â'r rhif 3.16, ar ddiwedd yr ail bwynt bwled, mae'n nodi "the terms 'merger' or 'amalgamation' might be used" yn y testun Saesneg. Fodd bynnag, yn y testun Cymraeg, defnyddiwyd un gair yn unig, sef "uno" sy'n gallu mynegi'r ddau air "merger" ac "amalgamation". Fodd bynnag, a ddylai hefyd nodi "cyfuno" yn y testun Cymraeg am "amalgamation", os oes unrhyw wahaniaeth posibl mewn ystyr neu bwyslais yn y dewis o eiriau yn y testun Saesneg?

 

7.     Ym mharagraff 3.22, mae anghysondeb yn y dewis o air i fynegi "register" yn y testun Cymraeg. Yn y trydydd pwynt bwled, mynegir "registered" trwy ddefnyddio'r gair mwy llythrennol "cofrestru" ond yn y pwynt bwled olaf mynegir "to register" trwy ddefnyddio "nodi".

 

8.     Ym mharagraff 3.23, yn y geiriau agoriadol cyn y pwyntiau bwled, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “the following information for the new school must also be included” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol” ac mae’r geiriau “ar gyfer yr ysgol newydd” wedi’u hepgor.

 

9.     Ym mharagraff 3.36, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi "children and young people's participation standards for Wales" ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “safonau cenedlaethol ar gyfer cyfranogiad plant a phobl ifanc yng Nghymru".

 

10.  Ym mharagraff 4.3, mae rhai gwahaniaethau rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn yr ail bwynt bwled, mae'n nodi “any existing school” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “unrhyw ysgol”, ac mae’r gair “bresennol” wedi’i hepgor. Yn ogystal, yn y testun Saesneg, yn y pedwerydd pwynt bwled, mae'n nodi "and staff members" ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “a staff yr ysgol”.

 

11.  Ym mharagraff 5.1 yn y pwynt bwled cyntaf, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi "see paragraphs 5.24 to 5.27” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “gweler paragraffau 5.25 i 5.28”.

 

12.  Mae paragraff 5.17 yn ymwneud â chynigion sydd angen cymeradwyaeth gan awdurdod lleol. Os yw cynnig yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth awdurdod lleol, mae paragraff 5.17 yn darparu bod yn rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi ei benderfyniad o fewn 16 o wythnosau sy’n dechrau â diwedd y cyfnod gwrthwynebu. Mae hyn yn adlewyrchu adran 51(8) o Ddeddf 2013. Fodd bynnag, mae paragraff 5.17 yn mynd ymlaen i ddarparu nad yw methiant i gydymffurfio â'r terfyn amser hwnnw yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw benderfyniad a wneir ac ymddengys fod hyn yn torri'n uniongyrchol ar draws adran 51(8) o Ddeddf 2013, ac ar draws ewyllys y Senedd a fynegir ynddi. Er ein bod yn nodi y caiff y Cod osod gofynion o dan adran 38(3) o'r Ddeddf, nid ydym o'r farn y gall hynny ymestyn i newid effaith y ddeddfwriaeth sylfaenol. Os bydd awdurdod lleol wedi gwneud penderfyniad ar ôl i'r cyfnod a nodir yn adran 51(8) ddod i ben, pa bŵer rydych chi'n ystyried y bydd yn ei arfer wrth wneud y penderfyniad hwnnw?

 

13.  Ym mharagraff 5.28, yn y frawddeg olaf, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “whether or not contested school organisation proposals” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “cynigion trefniadaeth ysgolion ai peidio”, ac mae’r gair “dadleuol” wedi’i hepgor.

 

14.  Ym mharagraff 6.9, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “by the substitution of a later date” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “drwy bennu dyddiad diweddariach”.

 

15.  Ym mharagraff 7.7, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “The possible closure of such schools” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “i gau ysgolion o’r fath”, ac mae’r gair “posibilrwydd” wedi’i hepgor. Yn ogystal, gellid dadlau mai "dyroddi" yn hytrach na "cyhoeddi" yw'r gair priodol i fynegi ystyr "issuing" mewn perthynas â hysbysiad statudol am gau yn y testun Cymraeg.

 

16.  Ym mharagraff 9.7, mae cyfeiriad at “adran 63A(1) o Ddeddf 2023”.  A ddylai'r cyfeiriad hwn fod at Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013?

 

17.  Yn Atodiad B, yn yr Enghreifftiau o hysbysiadau statudol, yn y testun Cymraeg, mynegir "insert" yn gyffredinol drwy ddefnyddio "nodwch". Fodd bynnag, yn yr hysbysiad cyntaf defnyddir "mewnosodwch" ar un achlysur ac yn yr ail hysbysiad mae "rhowch" wedi cael ei ddefnyddio ar rai achlysuron ar gyfer "insert". A ddylid mabwysiadu dull cyson o ran dewis term ar gyfer "insert" drwy gydol yr hysbysiadau yn y testun Cymraeg?

 

18.  Yn Atodiad B, yn yr Enghraifft o hysbysiad statudol i sefydlu ysgol gymunedol neu wirfoddol newydd, yn y paragraff sy'n dechrau "Yn achos cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol newydd,...", mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “if the proposals are to be implemented by both” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “os bwriedir i’r ddau barti weithredu’r cynigion”. Fodd bynnag, yn ddiweddarach yn yr un paragraff mae'n nodi “y graddau y bydd y naill gorff a’r llall yn eu gweithredu” yn nhestun y ddwy iaith. Felly, yn y testun Cymraeg, dylid nodi "y ddau gorff" yn hytrach na "y ddau barti" i fod yn gyson os ystyrir bod angen darparu gair ychwanegol i gwblhau ystyr y frawddeg. Fel arall, dylid nodi "gan y ddau" fel y gwnaed yn gynharach yn nhestun Cymraeg paragraff 4.7 y Cod.

 

19.  Yn Atodiad B, yn yr Enghraifft o hysbysiad statudol i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol gymunedol a gynhelir, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol feithrin, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn y paragraff cyntaf, nodir y teitl yn gywir "the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013". Fodd bynnag, yn y testun Cymraeg, mae'r teitl wedi'i nodi'n anghywir oherwydd bod "(Cymru)" ar goll o enw'r Ddeddf honno.

 

20.  Yn Atodiad C, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, yn y pwynt bwled olaf ond un o dan y pennawd "Welsh language impact assessment" mae'n nodi “and any specific language enhancement” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “unrhyw ddarpariaeth gwella iaith”, ac mae’r gair “benodol” wedi’i hepgor.

 

21.  Yn Atodiad D, yn y pumed paragraff, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Ar ddechrau'r paragraff hwnnw, yn y testun Saesneg, mae'n nodi “Where a school with a designated Church in Wales or Roman Catholic religious character…” ond yn y testun Cymraeg, mae’n nodi “Pan fo ysgol â chymeriad crefyddol fel un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu ysgol Gatholig Rufeinig”, ac mae’r gair “dynodedig” wedi’i hepgor. Caiff ei nodi’n gywir yn ddiweddarach ym mrawddeg olaf y paragraff hwnnw yn y testun Cymraeg lle mae’r gair “dynodedig” wedi'i gynnwys ar gyfer yr ymadrodd "â chymeriad crefyddol dynodedig".

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb Lywodraeth Cymru ar gyfer yr holl bwyntiau adrodd.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

7 Ionawr 2026